Llwybr pren ar lan y llyn wedi’i leoli rhwng dau gopa
Mae’r llwybr pren hygyrch hwn wedi’i leoli ar lan orllewinol Llyn Cwellyn ger pentref Rhyd Ddu.
Bydd y llwybr pren yn eich arwain trwy goetir bach at lan y llyn, lle gallwch ddisgwyl golygfeydd trawiadol o Lyn Cwellyn, Mynydd Mawr a’r Wyddfa.
Pam y llwybr hwn?
Mae Llwybr Pren Llyn Cwellyn yn lle perffaith ar gyfer picnic distaw gan fwynhau rhai o atyniadau amlycaf Eryri – ei chopaon uchel a llynnoedd pellgyrhaeddol.
Mae’r llwybr pren yn hawdd ei gyrraedd o’r maes parcio cyfagos ac mae’n cynnig meinciau picnic hygyrch.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.
Dechrau/Diwedd
Maes parcio Llyn Cwellyn rhwng Rhyd Ddu a Betws Garmon (SH 564 551)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Ogwen)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes parcio Llyn Cwellyn
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae toiled hygyrch wedi ei leoli yn y maes parcio ond dim ond ar agor yn dymhorol. Mae dau fwrdd picnic hygyrch wedi’u lleoli mewn mannau gwylio ar hyd y llwybr pren.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd
Cais Llogi Tramper ar gyfer Llwybr Pren Llyn Cwellyn
Gwybodaeth am Logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Llyn Cwellyn
Mae Llyn Cwellyn yn gronfa ddŵr 120 troedfedd o ddyfnder ger pentref Rhyd Ddu. Mae’n cyflenwi dŵr yfed i rannau o Wynedd ac Ynys Môn. Ar ei lan ddwyreiniol mae godre Mynydd Mawr, ardal sydd bellach yn cael ei hystyried yn warchodfa natur. Mae Moel Eilio i’w weld o’r gorllewin.
Lôn Gwyrfai
Dafliad carreg i’r de o Lyn Cwellyn mae pentref bychan Rhyd Ddu. Gellir cael mynediad at Lôn Gwyrfai, llwybr arall a hyrwyddir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, o’r pentref. Mae’r llwybr yn llwybr hygyrch gwych arall yn y Parc Cenedlaethol sy’n ymestyn yr holl ffordd i Feddgelert.
Rheilffordd Ucheldir Cymru
I’r gogledd o Lyn Cwellyn, ar hyd odre Moel Eilio, mae Rheilffordd Ucheldir Cymru yn rhedeg. Mae’r rheilffordd dreftadaeth gul hon yn gweithredu rhwng Caernarfon a Phorthmadog ac yn cynnig rhai o olygfeydd gorau Eryri.