Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Un o’r llwybrau mwyaf amlbwrpas yn y Parc Cenedlaethol yn ymestyn rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu

Mae Lôn Gwyrfai yn llwybr hamdden aml-ddefnydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ceffyl. Mae’r llwybr yn ymestyn 4½ milltir rhwng pentrefi Rhyd Ddu a Beddgelert. Mae rhannau o Lôn Gwyrfai yn llydan ac yn addas ar gyfer rhai cerbydau math Tramper neu gadeiriau olwyn pŵer.

Aiff y daith drwy amrywiaeth o dirweddau, ac mae’n cynnig golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwyrfai a’r cyffiniau, gan gynnwys golygfeydd godidog o’r Wyddfa.

Pam y Llwybr Hwn?

Mae Lôn Gwyrfai yn un o’r llwybrau mwyaf amlbwrpas yn y Parc Cenedlaethol ac yn addas i gerddwyr, beicwyr a marchogwyr. Efallai y bydd cerddwyr profiadol yn mwynhau cwblhau’r llwybr 4½ milltir i gyd. Fodd bynnag, mae hefyd posib cwblhau rhannau llai o’r llwybr.

Gallech hefyd fanteisio ar y gwasanaeth bws neu Reilffordd Ucheldir Cymru i deithio yn ôl ac ymlaen rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu.

Yn wych ar gyfer:
A member of the public using the Tramper on Lôn Gwyrfai
Defnyddio'r Tramper ar Lôn Gwyrfai

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr hawdd. Mae’n addas ar gyfer pobl o’r rhan fwyaf o oedrannau a lefelau ffitrwydd. Mae’r tir yn bennaf yn drac neu lwybr wedi’i ffurfio’n dda gyda rhai grisiau neu arwynebau sy’n donnog ysgafn. Argymhellir esgidiau ymarfer neu esgidiau cerdded cyfforddus.

Dechrau
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Rhyd Ddu

Diwedd
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Beddgelert

Mae Lôn Gwyrfai yn ymestyn o bentref Rhyd Ddu i Feddgelert. Mae’r llwybr arbennig hwn yn dechrau ym mhentref Rhyd Ddu.

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Rhyd Ddu
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Noder fod y llwybr arbennig hwn yn dilyn llwybr Lôn Gwyrfai o Ryd Ddu i Feddgelert. Serch hynny, mae modd dilyn y llwybr o Feddgelert i Ryd Ddu.

Gallwch hefyd ddal y bws yn ôl os ydych ond eisiau dilyn y llwybr un ffordd.

Traveline Cymru

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd

Pwysig
Dim ond rhai darnau o Lôn Gwyrfai sy’n addas ar gyfer Trampers. Pan fyddwch yn gwneud eich cais i logi Tramper, bydd swyddog o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn eich hysbysu o adrannau addas ac anaddas y daith.

I logi’r Tramper ar y funud olaf, ffoniwch 01766890288 neu e-bostiwch reception@beddgelertcampsite.co.uk.

Cais Llogi Tramper ar gyfer Lôn Gwyrfai
Cais Llogi Beic Trydan 4-Olwyn ar gyfer Lôn Gwyrfai
Gwybodaeth am Logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Datblygu Lôn Gwyrfai

Cafodd Lôn Gwyrfai ei gynnig gan grŵp o drigolion lleol fel llwybr cerdded rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert. Ymgeisodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol am arian drwy Brosiect Cymunedau a Natur (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) i ariannu hanner costau datblygu’r llwybr. Nod y Prosiect Cymunedau a Natur oedd creu twf economaidd a gyrfaoedd cynaliadwy drwy fanteisio ar rinweddau amgylcheddol Cymru – yn enwedig ei thirwedd a’i bywyd gwyllt.

Daeth gweddill y cyllideb datblygu yn uniongyrchol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cafodd y prosiect ei oruchwylio a’i weinyddu gan yr Awdurdod gyda’r cyllid yn cael ei weinyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.

Datblygwyd Lôn Gwyrfai dros gyfnod o oddeutu 6 mis ac, ar wahân i lwybrau i gopa’r Wyddfa, mae’n un o lwybrau mwyaf poblogaidd Eryri.

Hanes

Roedd Llyn y Gadair yn cynnal y rheilffordd oedd yn cludo llechi o Chwarel Gadair-wyllt. Bu’r chwarel yn weithredol rhwng 1885 a 1920, a chafodd gwastraff llechi ei ollwng yn y llyn am gyfnod.

Tua’r dwyrain, ar lethrau’r Wyddfa, mae gweddillion Chwarel Lechi’r Ffridd. Chwarela, mwyngloddio a ffermio oedd prif fywoliaeth yr ardal ar un adeg, gyda phentrefi fel Rhyd Ddu wedi’u hadeiladu’n gyfan gwbl i gartrefu teuluoedd chwarelyddol. Mae ffermio yn parhau i fod yn un o brif fywoliaeth yn y Parc Cenedlaethol heddiw, ac mae mynyddoedd fel yr Wyddfa yn gartref i glytwaith enfawr o ffermydd mynydd.

Bioamrywiaeth

Mae Llyn y Gadair, a’r afon Gwyrfai sy’n llifo allan ohono, o werth ecolegol mawr. Mae’n cynnal amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt o bwysigrwydd cenedlaethol, megis pysgodyn Torgoch yr Arctig a’r planhigyn Llyriad-y-dŵr arnofiol.

Rheilffordd Ucheldir Cymru

Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru yn rhedeg yn gyfochrog â Lôn Gwyrfai. Mae’r rheilffordd dreftadol gul hon yn gweithredu rhwng Caernarfon a Phorthmadog ac yn cynnig rhai o olygfeydd gorau Eryri.

Darganfyddwch lwybrau eraill yn y Parc Cenedlaethol