Yr hiraf o ddwy daith ar hyd ffermdir Yr Ysgwrn
Yr Ysgwrn yw un o asedau mwyaf gwerthfawr Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd y ffermdy traddodiadol hwn, sydd wedi’i leoli ar lethrau bryniog Trawsfynydd, yn gartref i’r bardd enwog, Hedd Wyn. Daeth gwaith, hanes a chartref y bardd yn symbolau o drasiedi’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Bydd y daith hon yn mynd â chi ar draws ffermdir yr Ysgwrn, sy’n parhau i fod yn fferm weithiol hyd heddiw, gyda golygfeydd hyfryd o Eryri.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r daith gerdded hawdd hon yn cychwyn ar safle’r Ysgwrn gan fynd â chi heibio’r ffermdy enwog ac ar hyd y ffermdir. I’r rhai sydd â diddordeb yn hanes Yr Ysgwrn, beth am gyfuno’r daith gerdded gyda thaith dywys o amgylch ffermdy’r Ysgwrn?
Ni chaniateir cŵn ar y daith hon.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr hawdd. Mae’n addas ar gyfer pobl o’r rhan fwyaf o oedrannau a lefelau ffitrwydd. Mae’r tir yn bennaf yn drac neu lwybr wedi’i ffurfio’n dda gyda rhai grisiau neu arwynebau sy’n donnog ysgafn. Argymhellir esgidiau ymarfer neu esgidiau cerdded cyfforddus.
Dechrau / Diwedd
Maes Parcio Yr Ysgwrn
Map OS Perthnasol
OS Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)
Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes Parcio Yr Ysgwrn
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Yr Ysgwrn a Hedd Wyn
Mae stori Yr Ysgwrn a Hedd Wyn yn rhai o asedau mwyaf gwerthfawr Parc Cenedlaethol Eryri. Bardd a bugail oedd Hedd Wyn ac roedd yn un o nifer o frodyr a chwiorydd oedd yn byw yn Yr Ysgwrn.
Bu’r teulu’n byw bywyd gwledig Cymreig nodweddiadol hyd at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, pan ddrafftiwyd Hedd Wyn i’r blaen fel rhan o’r ymdrechion rhyfel parhaus. Cyn cael ei ddrafftio i’r blaen, roedd Hedd Wyn wedi cyflwyno cais i gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
O fewn ychydig wythnosau ar y ffrynt, collodd Hedd Wyn ei fywyd ym Mrwydr Passchendaele ar Orffennaf 31, 1917.
Yn ystod seremoni’r Cadeirio yn Eisteddfod Penbedw, cyhoeddwyd mai Hedd Wyn oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth. Cyhoeddwyd hefyd y newyddion trasig fod y bardd wedi colli ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf wythnosau ynghynt.
Gorchuddiwyd y Gadair â lliain ddu, gan roi’r enw ‘Y Gadair Ddu’ iddi. Trosglwyddwyd y Gadair yn ddiweddarach i’r Ysgwrn lle gellir ymweld â hi heddiw.