Y ffordd orau o brofi’r hyn sy’n gwneud Eryri mor arbennig yw archwilio’r milltiroedd o lwybrau a theithiau cerdded ar draws y dirwedd.

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol 1,497 milltir o lwybrau sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i chi ymgolli’n llwyr yn rhai o rinweddau unigryw Eryri.

Mae llawer o fanteision eraill i gerdded yn Eryri, gan gynnwys gwella ein hiechyd a lles corfforol a meddyliol.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau o lwybrau cyn dechrau ar eich taith trwy ddarllen gwybodaeth am Raddfeydd Llwybrau.

Hidlo canlyniadau
Lleoliad
Gradd
Amser
Amgylchoedd
Math o lwybr
Rhinweddau arbennig
Llwybrau hygyrch
Llwybr Mawddach
Llwybr Mawddach
Mynediad i Bawb
Un ffordd 15 km 6 awr
Un o lwybrau mwyaf hyblyg a hygyrch Parc Cenedlaethol Eryri
Llwybr Minffordd
Llwybr Minffordd
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 9 km 6 awr
Un o ddau lwybr sy'n esgyn llethrau deheuol Cader Idris
Llwybr Panorama
Llwybr Panorama
Anodd/Llafurus
Circular route 6.5 km 3 awr
Un o'r nifer o deithiau cerdded gyda golygfeydd trawiadol ac amrywiol  sydd wedi lleoli ar hyd Aber Afon Mawddach
Llwybr Pilin Pwn (Tŷ Nant)
Llwybr Pilin Pwn (Tŷ Nant)
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 10 km 5 awr
Un o'r prif lwybrau i fyny i gopa Cader Idris.
Llwybr Pren Llyn Cwellyn
Llwybr Pren Llyn Cwellyn
Mynediad i Bawb
Circular route 0.25 km 0.5 awr
Llwybr pren ar lan y llyn wedi'i leoli rhwng dau gopa
Llwybr Pren Traeth Benar
Llwybr Pren Traeth Benar
Mynediad i Bawb
Yno ac yn ôl 0.25 km 0.25 awr
Llwybr pren sy'n sefyll o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn.
Llwybr Pyg
Llwybr Pyg
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 11 km 6 awr
Un o ddau lwybr sy’n cychwyn o Ben y Pass, mae Llwybr Pyg yn llwybr creigiog ac anodd gyda sawl dringfa serth.
Llwybr Rhyd Ddu
Llwybr Rhyd Ddu
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 12 km 6 awr
Llwybr i gopa'r Wyddfa gan gychwyn ym mhentref bychan Rhyd Ddu
Llwybr Watkin
Llwybr Watkin
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 13 km 6 awr
Llwybr serth i fyny llethrau deheuol yr Wyddfa gan gychwyn yn Nant Gwynant
Llwybr y Mwynwyr
Llwybr y Mwynwyr
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 13 km 6 awr
Llwybr serth a chreigiog i gopa'r Wyddfa gan gychwyn o Ben y Pass.
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Anodd/Llafurus
Circular route 10 km 5 awr
Llwybr hir trwy geunentydd arallfydol ac eangderau sydd yn llawn hanes diwydiannol
Llyn Tegid De
Llyn Tegid De
Cymedrol
Un ffordd 12 km 5 awr
Taith gerdded hir ar hyd glan ddeheuol llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid.
Map