Mae llwybrau a theithiau cerdded Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i bawb fwynhau harddwch naturiol Eryri.

O draethau pellgyrhaeddol i lynnoedd heddychlon, mae Eryri yn le perffaith i brofi golygfeydd godidog yn ogystal a’r synau a gweadau amrywiol sydd gan natur i’w gynnig.

Eich ymweliad hygyrch ag Eryri

Mae’r wefan hwn yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynllunio eich ymweliad hygyrch ag Eryri. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch hygyrchedd yn y Parc Cenedlaethol, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Llwybrau Poblogaidd a Thawel
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am boblogrwydd llwybrau amrywiol ar y wefan hon. Mae yna lawer o lwybrau tawelach a llai poblogaidd i ddewis ohonynt.
Cŵn Tywys
Gallwch fynd â’ch ci tywys ar lawer o lwybrau a theithiau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Argymhellir darllen ein tudalen ar fynd â chŵn am dro yn Eryri cyn cychwyn ar eich taith.
Deffro'r synhwyrau
Mae cyfleoedd anhygoel i wrando ar synau byd natur yn Eryri, o dawelwch hudolus ardaloedd llai poblogaidd i ruo rhaeadrau ewynnog uchel.
Llogi Tramper
Gallwch logi tramper, math o sgwter sy'n addas ar gyfer arwynebau anwastad, gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r sgwteri hyn yn ffordd wych o ddarganfod rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol y Parc Cenedlaethol.
Canolfannau Gwybodaeth y Parc Cenedlaethol
Cofiwch ymweld ag un o Ganolfannau Croeso Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am gyngor ac arweiniad ar unrhyw ran o’ch ymweliad hygyrch ag Eryri.
Tramper ar Lon Gwyrfai
Llogi Tramper
Ymwelwch â rhai o ardaloedd mwyaf godidog y Parc Cenedlaethol gyda'r Tramper.
Llogi Tramper
Llwybr Afon, Llyn a Thref Y Bala
Llwybr Afon, Llyn a Thref Y Bala
Mynediad i Bawb
Circular route 3.2 km 1 awr
Llwybr hygyrch a hyblyg yn Y Bala.
Lôn Gwyrfai
Lôn Gwyrfai
Hawdd
Un ffordd 7 km 3 awr
Un o'r llwybrau mwyaf amlbwrpas y Parc Cenedlaethol yn ymestyn rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu.
Llwybr Pren Llyn Cwellyn
Llwybr Pren Llyn Cwellyn
Mynediad i Bawb
Circular route 0.25 km 0.5 awr
Llwybr pren ar lan y llyn wedi'i leoli rhwng dau gopa
Llwybr Mawddach
Llwybr Mawddach
Mynediad i Bawb
Un ffordd 15 km 6 awr
Un o lwybrau mwyaf hyblyg a hygyrch Parc Cenedlaethol Eryri
Dôl Idris
Dôl Idris
Mynediad i Bawb
Circular route 1.25 km 0.75 awr
Llwybr braf trwy barcdir hardd wrth droed Cader Idris
Foel Ispri
Foel Ispri
Mynediad i Bawb
Yno ac yn ôl 0.3 km 0.25 awr
Llwybr byr, hygyrch i un o'r golygfeydd gorau o Aber Afon Mawddach
Cwestiynau Cyffredin Hygyrchedd

Mae parcio am ddim ar gael i ddeiliaid bathodyn glas ym meysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gwybodaeth am ba feysydd parcio sydd â mannau parcio i’r anabl ar y dudalen Parcio.

Parcio yn Eryri

Parcio Anabl ym Mhen y Pass:

Nid oes unrhyw newid i’r drefn parcio anabl ym Mhen y Pass. Nid oes angen archebu ymlaen llaw na thalu i barcio yno. Fodd bynnag, mae’n gweithredu ar sail gyntaf i’r felin, ac felly efallai gall y man parcio fod yn llawn. Mae hyn yn debygol yn enwedig yn ystod misoedd prysur yr haf.

Mae gennym staff yno 24 awr y dydd ac maent yn hapus i’ch cynorthwyo os yw’r man parcio eisoes wedi’i gymryd.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig toiledau hygyrch mewn llawer o leoliadau.

Mae gwybodaeth am doiledau hygyrch ar gael ar y dudalen Toiledau a Chyfleusterau.

Toiledau a Chyfleusterau

Mae gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn gweithredu bysiau llawr isel gyda ramp cadair olwyn.

Am fwy o wybodaeth am gludiant cyhoeddus hygyrch, ewch i wefannau Cyngor Gwynedd neu Gonwy.

Sherpa’r Wyddfa
Gwefan Cyngor Gwynedd
Gwefan Cyngor Conwy