Llwybr serth a chreigiog i gopa’r Wyddfa gan gychwyn o Ben y Pass
Mae Llwybr y Mwynwyr yn un o ddau lwybr sy’n cychwyn ym Mhen y Pass. Bydd y trac yn mynd â chi ar hyd glannau Llyn Teyrn, Llyn Llydaw a Glaslyn cyn esgyn yn serth i gwrdd â Llwybr Llanberis i’r copa.
Adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr yn wreiddiol i wasanaethu Mwynglawdd Copr Britannia. Gellir gweld olion mwynglawdd ar hyd y llwybr.
Pam y llwybr hwn?
Mae cyrraedd copa’r Wyddfa yn dasg heriol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dosbarthu’r holl lwybrau i fyny’r Wyddfa fel llwybrau anodd a llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd, ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.
Mae trac y Mwynwyr yn llwybr poblogaidd sy’n cychwyn o Ben y Pass. Mae hanner olaf y llwybr yn esgyniad heriol a serth sy’n gofyn am ddringo craig rydd a sgri.
Adroddiadau Amodau Dan Draed
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel un Anodd/Llafurus. Dim ond ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd y mae’n addas. Mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw a gall gynnwys rhai darnau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydd yn hanfodol, ac efallai y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.
Dechrau / Diwedd
Maes Parcio Pen-y-Pass (SH 647 557)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Sherpa’r Wyddfa
Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth cyfleus sy’n teithio rhwng pob un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa.
Mae’r cysylltiadau gorau i Lwybr y Mwynwyr yn cychwyn o Nant Peris neu Llanberis. Mae hefyd cysylltiadau gwych o Fetws y Coed, Caernarfon a Bangor.
Arhosfan Bws Llwybr y Mwynwyr
Pen y Pass
Am wybodaeth pellach ar sut i gyrraedd llwybrau’r Wyddfa, darllenwch ganllaw cynhwysfawr Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ymwelwch â gwefan Sherpa’r Wyddfa.
Parcio
Maes Parcio Pen y Pass
Gwybodaeth am Faes Parcio Pen y Pass
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa:
Maes Parcio Nant Peris ar Google Maps
Maes Parcio Llanberis ar Google Maps
Maes Parcio Betws y Coed ar Google Maps
Maes Parcio Caernarfon ar Google Maps
Os yn parcio ym Mangor, mae nifer o feysydd parcio ar gael.
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w heicio. Ni ddylid mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.
Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr addas ar gyfer Beic Trydan 4-Olwyn. Mae Beiciau Trydan 4-Olwyn yn Feiciau symudedd pob tir sydd wedi’u dylunio’n arbennig ac sy’n galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf gwych y Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Beicwyr Trydan 4-Olwyn yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoid Rhodd
Pwysig
Dim ond rhai rhannau o Drac y Mwynwyr sy’n addas ar gyfer y Beic Trydan 4-Olwyn. Pan fyddwch yn gwneud cais i logi, bydd swyddog o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi gwybod i chi am rannau addas ac anaddas y llwybr.
Gorsaf bŵer hydro-electrig Cwm Dyli
Wrth i chi gychwyn ar eich taith ar hyd Llwybr y Mwynwyr, efallai y sylwch ar bibell ddŵr yn ymestyn i lawr y dyffryn ar y chwith i chi. Mae’r bibell hon yn cyflenwi dŵr o Lyn Llydaw i orsaf bŵer hydro-electrig Cwm Dyli yn Nyffryn Gwynant. Dyma’r orsaf bŵer hynaf ym Mhrydain.
Adeiladwyd pwerdy Cwm Dyli yn wreiddiol i gyflenwi trydan ar gyfer rheilffordd drydan trwy Ddyffryn Gwynant. Bwriad y rheilffordd oedd cysylltu chwareli llechi a mwyngloddiau’r ardal, ond rhoddwyd y gorau i’r gwaith. Fodd bynnag, ym 1906, comisiynwyd yr orsaf bŵer i gyflenwi trydan i’r Grid Cenedlaethol ac mae wedi bod yn weithredol ers hynny.
Sarn Llyn Llydaw
Wrth i chi esgyn Llwybr y Mwynwyr, byddwch yn croesi’r sarn yn Llyn Llydaw. Cyn cael ei adeiladu ym 1853, roedd gweithiwyr y Mwynglawdd Copr Britannia yn defnyddio rafft i gludo ceffylau a wagenni yn llawn copr ar draws y llyn. Wrth wneud y gwaith adeiladu datgelwyd ceufad derw cynhanesyddol, 10 troedfedd wrth 2 droedfedd, sy’n dangos bod pobl wedi crwydro’r mynydd hwn ers miloedd o flynyddoedd.
Mwynglawdd Copr Britannia
Adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr i wasanaethu Mwynglawdd Copr Britannia. Fodd bynnag, nid y trac oedd y llwybr a ddefnyddiwyd i wasanaethu’r pwll i ddechrau. Cyn i’r llwybr ddod i fodolaeth, byddai gweithiwyr y mwynglawdd yn llusgo copr i fyny llethrau dwyreiniol yr Wyddfa i’w dynnu gan geffyl a sled i lawr i Lyn Cwellyn. O Lyn Cwellyn, cludwyd y copr ar geffyl a chert i Gaernarfon.
Pan adeiladwyd y ffordd o Lanberis i Ben y Pass, roedd Llwybr y Mwynwyr yn ddewis mwy ymarferol i gludo’r copr o’r mwynglawdd.
Mae adfeilion Mwynglawdd Copr Britannia yn cynnwys y felin falu a rhai o farics y glowyr.
Bwlch y Saethau
Wrth edrych ar draws Glaslyn, i’r chwith o gopa’r Wyddfa, fe welwch Fwlch y Saethau. Arferai’r gweithiwyr o Feddgelert ddringo dros y bwlch hwn gyda cadwyni haearn a oedd wedi’u gosod ar y graig.
Yn ôl y chwedl, dyma lle y bu i’r Brenin Arthur gael ei daro gan saeth mewn brwydr. Cariwyd ef at lan Llyn Llydaw, lle daeth cwch gyda thair morwyn a’i gludo trwy’r niwl i Afallon.