Un o lwybrau mwyaf hyblyg a hygyrch Parc Cenedlaethol Eryri
Yn ymestyn rhwng Dolgellau a’r Bermo, mae Llwybr Mawddach yn cael ei ystyried yn un o’r llwybrau mwyaf hyblyg a hygyrch yn y Parc Cenedlaethol.
Mae’r llwybr 9 milltir o hyd yn dilyn glan ddeheuol aber y Fawddach—un o ardaloedd mwyaf toreithiog y Parc Cenedlaethol o ran bywyd gwyllt a hanes.
Pam y llwybr hwn?
Fel llwybr hygyrch, mae’r Fawddach yn addas ar gyfer pobl o bob gallu. Mae wyneb llydan a gwastad y llwybr yn ei wneud yn ddewis perffaith i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd oddi ar y ffordd.
Mae’n bosib ymuno â’r llwybr o sawl lleoliad, gan wneud y Fawddach yn opsiwn hynod o hyblyg i’r rhai sydd eisiau taith gerdded fyrrach, fwy hamddenol ar hyd yr aber.
Mae beicio yn weithgaredd poblogaidd ar lwybr y Fawddach a gall fod yn opsiwn gwych i deuluoedd sy’n chwilio am daith anturus.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.
Mae Llwybr Mawddach wedi’i nodi’n glir a gellir ei ddilyn yn hawdd. Gallwch ymuno â’r llwybr o unrhyw un o’r lleoliadau canlynol:
- Y Marian, Dolgellau
- Pont y Wernddu
- Llyn Penmaen
- Arthog
- Morfa Mawddach
- Abermaw
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Mae gan y Fawddach nifer o leoliadau ble gallwch ymuno a’r llwybr. Mae maes parcio a mynedfeydd i’r yn y lleoliadau isod:
- Y Marian, Dolgellau (LL40 1DL)
- Pont y Wernddu (LL40 2SR)
- Llyn Penmaen (LL40 1YD)
- Arthog (LL39 1AX)
- Morfa Mawddach (LL39 1BQ)
- Abermaw (LL42 1LX)
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi categoreiddio’r llwybr fel llwybr ‘Hawdd – Mynediad i Bawb’. Mae hyn yn golygu bod y llwybr yn addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys y rhai sydd â chadeiriau olwyn confensiynol a phramiau. Mae’r tir yn wastad ar y rhan fwyaf o’r llwybr ac nid oes unrhyw risiau na darnau serth.
Cadwch olwg allan am unrhyw dywod sydd wedi ei chwythu ar y llwybr wedi mynd dros Bont y Bermo, er bod y bont bren ei hun yn wastad ac yn llydan.
Parc Cenedlaethol Eryri sy’n berchen ar y llwybr rhwng Dolgellau a Morfa Mawddach, ac mae’r rhan fwyaf o’i hyd yn cyrraedd lled 3 metr.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Mae toiledau hygyrch yn Nolgellau, Llyn Penmaen, Morfa Mawddach ac Abermaw.
- Mae nifer o feinciau hygyrch a byrddau picnic ar hyd y llwybr.
- Mae’r gatiau llydan yn hygyrch i gadeiriau olwyn, beiciau a phramiau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd
Cais Llogi Tramper ar gyfer Llwybr Mawddach
Gwybodaeth am Logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Aber Afon Mawddach
Mae aber helaeth a thywodlyd Mawddach yn un o ardaloedd mwyaf hynod y Parc Cenedlaethol.
Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd morfa heli a chynefinoedd mawn iseldir.
Mae cors Arthog gerllaw yn gartref i warchodfa natur yr RSPB yn llawn bywyd gwyllt anhygoel fel blodau prin, nadroedd y gwair, gloÿnnod byw a phob math o adar.
Roedd yr ardal hefyd yn ganolbwynt i ddiwydiant cyfoethog Eryri yn y gorffennol. Ar lan ogleddol yr aber, saif mwynglawdd aur hanesyddol Clogau yn uchel uwchben pentref Bontddu. Roedd cloddio am aur yn weithgaredd poblogaidd yn y maes hwn. Roedd panio aur hefyd yn digwydd yn afon Mawddach ei hun.
Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, bu’r Fawddach yn gartref i ddiwydiant adeiladu llongau prysur. Adeiladwyd cyfanswm o 318 o longau ar hyd y Fawddach rhwng 1750 a 1865.
Rheilffyrdd Mawddach
Mae llwybr Mawddach yn dilyn llwybr yr hen reilffordd o Abermaw i Riwabon. Agorwyd y lein ym 1865 a bu’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Fe’i defnyddiwyd am gyfnod hefyd i gludo llechi. Caeodd y rheilffordd yn 1965 wrth i geir ddod yn ffordd fwy poblogaidd o deithio.
I lawr tua diwedd yr aber saif Pont y Bermo, yn croesi rhwng glannau gogleddol a deheuol Afon Mawddach. Mae’r bont yn draphont reilffordd bren un trac Gradd II* sy’n ymestyn 820 metr rhwng gorsafoedd Morfa Mawddach a’r Bermo. Dyma’r draphont bren hiraf yng Nghymru ac mae’n gyfystyr â golygfeydd o’r aber.