Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Llwybr hamddenol a hygyrch sy’n dechrau ar lannau Llyn Tegid

Mae Llwybr Afon, Llyn a Thref y Bala yn daith gerdded hamddenol sy’n cychwyn ar lannau Llyn Tegid, gan barhau ar hyd glannau afon Dyfrdwy, ac yna’n ymlwybro drwy strydoedd hynod Y Bala.

Mae’r llwybr ychydig dros 3 kilometr, sydd yn berffaith ar gyfer taith hudolus ar noson hafaidd braf neu daith hamddenol ganol dydd yn yr hydref. Mae digon o ddewis o fusnesau lleol sy’n gweini cinio neu swper yn Y Bala ar ddiwedd y daith.

Pam y llwybr hwn?

Mae’r llwybr yma’n berffaith ar gyfer y rheini sydd eisiau dro bach hamddenol sy’n addas i bawb ac yn cyfuno prydferthwch Llyn Tegid a’r afon Dyfrdwy yn ogystal ag atyniadau tref Y Bala. Mae’n daith delfrydol ar gyfer teuluoedd hefo pram neu defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae hefyd yn addas i’r rheini sydd yn defnyddio sgwteri tramper.

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ar flaendraeth Llyn Tegid

Map perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith 
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map 

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Blaendraeth Llyn Tegid
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Mae toiledau cyhoeddus ar gael yn y maes parcio yma yn cynnwys toiledau hygyrch. Mae’r cyfleusterau yma ar agor drwy’r flwyddyn.

Toiledau a Chyfleusterau 

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch 
Cod Cefn Gwlad

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd

Cais llogi Tramper ar gyfer Llwybr Afon, Llyn a Thref Y Bala 
Gwybodaeth am logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri

Y Bala

Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy dref Y Bala lle mae’r siopau, caffis clyd a thrysorau lleol i gyd yn aros i gael eu darganfod. Dyma ardal sydd â’r ganran uchaf siaradwyr Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol—lle perffaith i ymarfer a rhoi cynnig ar eich Cymraeg. Mae unigolion nodedig o’r dref yn cynnwys Betsi Cadwaladr, nyrs sydd a’i henw’n perthyn i fwrdd iechyd gogledd Cymru erbyn hyn, a  Michael D. Jones, gwladgarwr Cymreig a sefydlodd Y Wladfa ym Mhatagonia.

Betsi Cadwaladr
Michael D. Jones

Llyn Tegid

Yn ymestyn dros 3.5 milltir o hyd a thri chwarter milltir yn ei fan lletaf, mae rhyfeddod naturiol Llyn Tegid yn hafan i selogion chwaraeon dŵr. O badlfyrddio a chanŵio i hwylfyrddio a physgota, gall Llyn Tegid ddod yn hynod boblogaidd yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Mae’r llyn hefyd yn gartref i rywogaeth o bysgod a elwir yn ‘Gwyniad’. Mae’r rhain yn un o’r rhywogaethau prinnaf yn Eryri ac yn frodorol i’r llyn.

Llyn Tegid

Afon Dyfrdwy

Yn ystod rhan fer o’r llwybr, byddwch yn cerdded ar hyd glannau’r Afon Dyfrdwy. Mae’r Afon Dyfrdwy yn ymestyn dros 70 milltir ac yn mynd drwy drefi swynol fel Llangollen, Wrecsam a Chaer. Roedd yr afon yn lwybr masnach hanesyddol, sydd yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid pan oedd yn hanfodol ar gyfer masnach. Erbyn hyn, mae’n ganolbwynt ar gyfer bioamrywiaeth.

Darganfod llwybrau eraill