Y llwybr mwyaf poblogaidd i gopa mwyaf eiconig Eryri
Heb os, Llwybr Llanberis yw’r mwyaf poblogaidd yn y Parc Cenedlaethol. Mae dros 600,000 o bobl yn cyrraedd copa’r Wyddfa bob blwyddyn, ac mae’r rhan fwyaf o gerddwyr yn mynd ar hyd Llwybr Llanberis i’r copa.
Fel un o’r chwe phrif lwybr i gopa’r Wyddfa, mae llwybr Llanberis yn ddewis poblogaidd i’r rhai sy’n dringo’r Wyddfa am y tro cyntaf. Er mai dyma’r llwybr hiraf, mae’r ddringfa yn fwy graddol i’r brig.
Pam y llwybr hwn?
Tra bod Llwybr Llanberis yn cael ei ddisgrifio’n aml fel y ‘llwybr hawsaf i’r copa’, ni ddylech fyth ddiystyru unrhyw un o’r llwybrau i gopa’r Wyddfa. Mae cyrraedd copa’r Wyddfa yn dasg heriol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn categoreiddio Llwybr Llanberis fel llwybr anodd a llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.
Adroddiadau Amodau Dan Draed
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus. Dim ond ar gyfer cerddwyr gwledig profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd y mae’n addas. Mae sgiliau ar gyfer llywio’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.
Dechrau/ Diwedd
Rhes Victoria, Llanberis
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans OS Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Sherpa’r Wyddfa
Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth cyfleus sy’n teithio rhwng pob un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa.
Mae gan y gwasanaeth gysylltiadau gwych i Lwybr Llanberis o Fetws y Coed, Bangor a Chaernarfon.
Arhosfan Bws Llwybr Llanberis
Cyfnewidfa Llanberis
Am wybodaeth pellach ar sut i gyrraedd llwybrau’r Wyddfa, darllenwch ganllaw cynhwysfawr Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ymwelwch â gwefan Sherpa’r Wyddfa.
Parcio
Mae meysydd parcio addas ym mhentref Llanberis. Sicrhewch eich bod chi’n parcio mewn mannau dynodedig a pheidiwch a parcio ar strydoedd cul neu mewn ardaloedd preswyl.
Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w dringo. Ni ddylid mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.
Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.
Clytwaith o ffermydd yr ucheldir
Mae tirwedd garw’r Wyddfa yn gartref i glytwaith o ffermydd yr ucheldir. Mae ffermio wedi bod ar yr Wyddfa ers blynyddoedd lawer ac mae’n rhan gynhenid o’r mynydd yn ogystal â’r Parc Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd. Cofiwch y dylech bob amser gadw eich ci ar dennyn pan fyddwch yn croesi tir amaethyddol.
Rheilffordd yr Wyddfa
Erbyn hyn mae’r rheilffordd fynydd yn cyd-fynd â llethrau geirwon yr Wyddfa. Llwybr Llanberis yw’r unig lwybr sy’n dilyn y rheilffordd i’r copa. Yn ystod misoedd yr haf, rydych yn siŵr o weld cerbyd neu ddau ar hyd y cledrau. Mae system rac a phiniwn yn galluogi’r peiriannau i lywio’r esgyniad i’r copa, gan wthio’r cerbyd o’i flaen. Mae rhai trenau stêm dros gan mlwydd oed ac wedi dringo’r mynydd ers i’r rheilffordd agor gyntaf yn 1896.
Cwm Brwynog
Islaw, mae Dyffryn Cwm Brwynog, lle gallwch weld adfeilion hen gymuned glos. Roedd teuluoedd Gwaun Cwm Brwynog yn denantiaid i Stad y Faenol, Y Felinheli. Stad yr Assheton Smiths, oedd yn berchen ar chwarel lechi Dinorwig, oedd y Faenol. Bu llawer o ddynion Cwm Brwynog yn gweithio yn y chwarel yn ystod yr wythnos ac yn gofalu am eu tyddynnod yn eu hamser hamdden.
Roedd dau ddeg pump o dai yng Ngwaun Cwm Brwynog, ond dim ysgol, siop, tafarn, trydan na ffôn. Yr oedd yno, fodd bynnag, gapel. Mae olion Capel Hebron i’w gweld hyd heddiw. Yn aml, capeli oedd calon cymunedau bychain fel Gwaun Cwm Brwynog.
Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd cymuned Gwaun Cwm Brwynog wedi gwasgaru, a gadawyd yr adeiladau i’r elfennau benderfynu eu tynged.
Cwm Hetiau
Wrth i chi gyrraedd y Clogwyn, un o dair gorsaf ar hyd y trac rheilffordd mynydd, byddwch wedi cyrraedd man gydag enw digon rhyfedd. Yr enw lleol ar yr ardal hon yw Cwm Hetiau. Pan fyddai ymwelwyr Fictoranaidd yn teithio yng ngherbydau agored y trên, byddai’r gwynt yn cydio yn eu hetiau ac yn cael ei chwythu lawr i waelod Bwlch Llanberis. Byddai’r plant lleol yn casglu’r hetiau ar waelod y pas ac yn eu gwerthu i ymwelwyr yn Llanberis.
Clogwyn Du’r Arddu
Wrth ddod lawr y llwybr, efallai y sylwch ar Glogwyn Du’r Arddu – clogwyn serth yn wynebu tua’r gogledd-ddwyrain a llyn bychan wrth ei droed. Mae Clogwyn Du’r Arddu fwyaf enwog ymhlith dringwyr am ei lwybrau dringo gwych. Ond mae hefyd yn nodwedd ddaearegol ryfeddol—mae’r clogwyn yn deillio o weithgarwch daearegol rhyfeddol a ffurfiwyd dros filoedd o flynyddoedd. Mae arwyddion dyddodion llorweddol wedi’u trawsnewid yn haenau creigiau fertigol i’w gweld yn glir ar wyneb y clogwyn.