Un o ddau lwybr sy’n cychwyn o Ben y Pass, mae Llwybr Pyg yn llwybr creigiog ac anodd gyda sawl dringfa serth.

Tra bod llwybr Pyg yn un o’r llwybrau byrraf i fyny’r Wyddfa, dyma’r llwybr mwyaf garw a heriol i’r copa.

Gan gychwyn ym Mhen y Pass, mae’r Pyg yn ymdroelli tuag at Fwlch y Moch, lle cewch eich cipolwg cyntaf o Lyn Llydaw a’i sarn eiconig. Mae’r Pyg yn parhau cyn cwrdd â Llwybr y Mwynwyr i fyny tuag at Lwybr Llanberis ac ymlaen i’r copa.

Pwysig

Mae llwybr Pyg yn arwain ar hyd odre Crib Goch. Mae’r llwybr i fyny Crib Goch ac ar hyd y grib yn hynod beryglus a dim ond cerddwyr profiadol gyda’r offer arbenigol ddylai fentro i’r copa mewn amodau gaeafol.

Crib sydd fel min cyllell gyda dibyn serth 500 metr bob ochr iddi yw Crib Goch. Hyd yn oed mewn tywydd delfrydol, mae Crib Goch yn dasg anodd ac yn weithgaredd mynydda dybryd mewn tywydd gwlyb, gwynt, eira, niwl neu rew.

 

Adroddiadau Amodau Dan Draed

Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Cymru Fyw

Gwefan Yr Wyddfa Fyw

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd.  Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Pen-y-Pass (SH 647 557)

Map  Perthnasol
Arolwg Ordnans OL17 (yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Sherpa’r Wyddfa
Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth cyfleus sy’n teithio rhwng pob un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa.

Mae’r cysylltiadau gorau i Lwybr Pyg yn cychwyn o Nant Peris neu Llanberis. Mae hefyd cysylltiadau gwych o Fetws y Coed, Caernarfon a Bangor.

Arhosfan Bws Llwybr Pyg
Pen y Pass

S1
S2
S5
O Nant Peris neu Llanberis
S1
O Fetws y Coed neu Caernarfon
S2
O Fangor

Am wybodaeth pellach ar sut i gyrraedd llwybrau’r Wyddfa, darllenwch ganllaw cynhwysfawr Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ymwelwch â gwefan Sherpa’r Wyddfa.

Cyrraedd Yr Wyddfa
Gwefan Sherpa’r Wyddfa

Parcio
Maes Parcio Pen y Pass

Exclamation icon
Mae maes parcio Pen y Pass yn awr yn gweithredu ar sail talu ac arddangos.

Gwybodaeth am Faes Parcio Pen y Pass

Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa:

Maes Parcio Nant Peris ar Google Maps
Maes Parcio Llanberis ar Google Maps
Maes Parcio Betws y Coed ar Google Maps
Maes Parcio Caernarfon ar Google Maps

Os yn parcio ym Mangor, mae nifer o feysydd parcio ar gael.

Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw

 

Gwefan Yr Wyddfa Fyw

Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w dringo. Ni ddylid  mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.

Dringo’r Wyddfa
Cyngor ar Diogelwch

Mae llwybr Pyg yn arwain ar hyd odre Crib Goch. Mae’r llwybr i fyny Crib Goch ac ar hyd y grib yn hynod beryglus ac nid yw ond yn addas ar gyfer cerddwyr mynydd profiadol.

Crib sydd fel min cyllell gyda dibyn serth 500 metr bob ochr iddi yw Crib Goch. Hyd yn oed mewn tywydd delfrydol, mae Crib Goch yn dasg anodd ac yn weithgaredd mynydda dybryd mewn tywydd gwlyb, gwynt, eira, niwl neu rew.

Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.

Digwyddiadau Trefnedig

Yr enw ‘Pyg’

Nid yw’n glir pam y gelwir y llwybr hwn yn Llwybr Pyg, ond mae digon o esboniadau credadwy. Un posibilrwydd yw ei fod wedi’i enwi ar ôl y bwlch y mae’n arwain drwyddo, Bwlch y Moch – weithiau mae Pyg yn cael ei sillafu fel ‘Llwybr Moch’. Posibilrwydd arall yw bod ei enw yn deillio o’r ffaith bod gweithiwyr y mwynglawdd yn defnyddio’r llwybr i gludo ‘pyg’ i’r mwyngloddiau copr ar yr Wyddfa.

Ar droed deheuol yr Wyddfa mae Gwesty Pen y Gwryd a allai hefyd fod yn ysbrydoliaeth y tu ôl i enw’r llwybr hwn. Arhosodd y tîm a orchfygodd Everest yn 1953 yn y gwesty hwn tra’n hyfforddi ar yr Wyddfa. Wedi iddynt ddychwelyd o’r Himalayas, cynhaliwyd aduniad yn y gwesty yng nghwmni Edmund Hillary.

Sarn Llyn Llydaw

Wrth i chi esgyn Llwybr y Mwynwyr, byddwch yn croesi’r sarn yn Llyn Llydaw. Cyn cael ei adeiladu ym 1853, roedd gweithiwyr y Mwynglawdd Copr Britannia yn defnyddio rafft i gludo ceffylau a wagenni yn llawn copr ar draws y llyn. Wrth wneud y gwaith adeiladu datgelwyd ceufad derw cynhanesyddol, 10 troedfedd wrth 2 droedfedd, sy’n dangos bod pobl wedi crwydro’r mynydd hwn ers miloedd o flynyddoedd.

Bwlch y Saethau

Wrth edrych ar draws Glaslyn, i’r chwith o gopa’r Wyddfa, fe welwch Fwlch y Saethau. Arferai’r gweithiwyr o Feddgelert ddringo dros y bwlch hwn gyda cadwyni haearn a oedd wedi’u gosod ar y graig.

Yn ôl y chwedl, dyma lle y bu i’r Brenin Arthur gael ei daro gan saeth mewn brwydr.  Cariwyd ef at lan Llyn Llydaw, lle daeth cwch gyda thair morwyn a’i gludo trwy’r niwl i Afallon.

Llwybrau eraill i gopa'r Wyddfa
Mae chwe prif llwybr i gopa'r Wyddfa