Taith hamddenol drwy bentref hardd Betws-y-coed
Bydd y daith hon yn mynd â chi drwy bentref prydferth Betws-y-coed ac ar draws y pontydd niferus sy’n croesi’r Afon Llugwy. Mae Betws-y-coed yn un o bentrefi mwyaf poblogaidd a hynod y Parc Cenedlaethol—un â hanes cyfoethog sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Fictoria.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r llwybr hwn yn cynnig taith hamddenol a hardd trwy goedwigoedd mawreddog ac ar hyd glannau troellog Afon Llugwy. Fel llwybr hawdd, gall fod yn daith gwych i deuluoedd ac yn ddewis delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am brofiad hudolus, ynghyd â mannau picnic swynol.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr hawdd. Mae’n addas ar gyfer pobl o’r rhan fwyaf o oedrannau a lefelau ffitrwydd. Mae’r tir yn bennaf yn drac neu lwybr wedi’i ffurfio’n dda gyda rhai grisiau neu arwynebau sy’n donnog ysgafn. Argymhellir esgidiau ymarfer neu esgidiau cerdded cyfforddus.
Dechrau/Diwedd
Maes Parcio Cae Llan, Betws-y-coed
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Mae cysylltiadau gwych â Betws-y-coed ar drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cysylltiadau trên a bws.
Mae gwefan Traveline Cymru yn ffordd wych o gynllunio eich taith i Fetws y Coed.
Os ydych chi’n ymweld â Betws-y-coed gyda char, cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes Parcio Cae Llan, Betws-y-coed
Eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gweld y maes parcio ar what3words
Gweld y maes parcio ar Google Maps
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Betws-y-coed
Yn swatio yng nghanol y Parc Cenedlaethol mae pentref hynod Betws-y-coed a’i hanes cyfoethog sy’n dyddio’n ôl canrifoedd. Dyma bentref a ffynnodd yn ystod yr Oes Fictorianaidd pan ddaeth hi’n gyrchfan poblogaidd i breswylwyr dinesig y cyfnod oedd yn awchu i ddianc o fywyd prysur a myglyd y dinasoedd.
Mae poblogrwydd Betws-y-coed fel cyrchfan Fictorianiadd i’w weld hyd heddiw yn ei phensaernïaeth cyfoethog a chywrain. Wrth i chi grwydro’r drwy’r pentref, fe ddowch ar draws siopau crefft hyfryd, orielau celf annibynnol a chaffis clyd—pob un yn cyfrannu at naws unigryw un o bentrefi mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.
Dihangfa delfrydol i artistiaid
Roedd lleoliad delfrydol pentref Betws-y-coed, yng nghanol coedwigoedd gwyrddlas, afonydd cyfareddol a rhaeadrau syfrdanol, yn denu artistiaid ac awduron lu—yn enwedig yn ystod Oes Fictoria.
Dyma adeg pan oedd darlunio tirluniau cefn gwlad mewn gwerthfawrogiad o harddwch naturiol y tirwedd yn unig yn syniad estron tu hwnt. Ond fe chwaraeodd Betws-y-coed ran hynod ddylanwadol yn poblogeiddio’r cysyniad. Rhwng diwedd y 18fed ganrif a thrwy gydol y 19eg ganrif, daeth artistiaid fel J. M. W. Turner a David Cox yn ymwelwyr cyson â Betws-y-coed gan ddarlunio amrywiaeth eang o dirweddau a golygfeydd gan gynnwys Yr Wyddfa, Castell Dolbadarn, Castell Harlech a Betws-y-coed ei hun.
Cymaint oedd poblogrwydd Betws-y-coed fel dihangfa i artistiaid y cyfnod y sefydlwyd yr Academi Gelf Frenhinol Gymreig ym 1881 sy’n dal i fodoli hyd heddiw.