Copaon sy’n cipio’ch gwynt, llynnoedd aruthrol, hanes a threftadaeth gyfoethog a diwylliant fywiog ac unigryw

Bob blwyddyn, mae tirweddau syfrdanol Parc Cenedlaethol Eryri yn atynnu miliynau o ymwelwyr. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i gopa uchaf Cymru yn ogystal â llyn naturiol mwyaf Cymru—dau o atyniadau fwyaf poblogaidd Eryri.

Mae poblogrwydd rhai o ardaloedd poblogaidd y Parc Cenedlaethol yn golygu fod cynllunio ac ymchwilio ymlaen llaw yn rhan annatod o’ch ymweliad.

a walker in a red coat sitting on a ledge looking down on
Cynllunio eich ymweliad
Cynlluniwch eich ymweliad ymlaen llaw er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau o Eryri.
Cynllunio eich Ymweliad
The shores of Llyn Tegid
Llyn Tegid
Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Mae’n boblogaidd iawn ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr megis padl-fyrddio a chanŵio.
Ymweld â Llyn Tegid
Plas Tan y Bwlch
Saif Plas Tan y Bwlch, Canolfan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar lecyn bendigedig yn edrych dros ddyffryn Afon Dwyryd yng nghanol y Parc Cenedlaethol.
Mwy o wybodaeth
Ymgolli wrth ymlwybro
Mae milltiroedd ar filltiroedd o lwybrau a theithiau amrywiol ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol a hynny ar gyfer pawb o bob gallu. Dyma’r ffordd orau i brofi’r hyn sydd yn gwneud Eryri mor arbennig.