Croeso
Yn ymestyn dros gyfanswm o 823 milltir sgwâr, Eryri yw Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru. Yn gartref i dros 26,000 o bobl, mae tirwedd Eryri yn frith o ddiwylliant, hanes a threftadaeth, lle mae’r Gymraeg yn rhan o wead dydd i ddydd yr ardal.
Mae bron i 4 miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn i grwydro ei chopaon aruthrol a’i dyffrynnoedd syfrdanol, dod o hyd i lonyddwch ar ei llwybrau llai sathredig a darganfod ei chyfleoedd hamdden helaeth.
9
cadwyn o fynyddoedd
74
milltir o arfordir
11,000
acer o goedlan brodol
58%
o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg
1497
milltir o lwybrau i'w darganfod
Newyddion Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Cerdded Eryri
Mae gan Eryri amrywiaeth hyfryd o deithiau cerdded, pob un â'u rhinweddau arbennig eu hunain.
Gweld llwybrau a theithiau Eryri
Tirwedd o ddarganfod dibendraw
Daeareg byd enwog, rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol a hanes a threftadaeth gyfoethog yw rhai o’r pethau sy’n gwneud Eryri yn le mor arbennig.
Darganfod Eryri
Tirweddau a Bywyd Gwyllt
Llynnoedd ac Afonydd
O nentydd tawel i raeadrau uchel, llynnoedd epig i byllau heddychlon—mae gan dirwedd Eryri ddigonedd o lynnoedd ac afonydd i’w harchwilio.
Landscapes and Wildlife
Coedwigoedd
Mae coedwigoedd Eryri yn fyd dirgel o fywyd gwyllt ysblennydd a phlanhigion godidog.
Landscapes and Wildlife
Rhyfeddod Mawndiroedd
Mae’r ardaloedd dirlawn hyn o dir yn llawn bywyd gwyllt rhyfeddol, ond efallai mai eu nodwedd ddiffiniol yw un o atebion gorau byd natur i newid hinsawdd.
Tirwedd byw a thirwedd gweithio
Mae Eryri yn frith o gymunedau ar draws y dirwedd lle mae diwylliant, iaith a hanes yn cydblethu i greu hunaniaeth unigryw a bywiog.
Darganfod Diwylliant, Iaith a Chymuned