Y ffordd orau o brofi’r hyn sy’n gwneud Eryri mor arbennig yw archwilio’r milltiroedd o lwybrau a theithiau cerdded ar draws y dirwedd.

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol 1,497 milltir o lwybrau sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i chi ymgolli’n llwyr yn rhai o rinweddau unigryw Eryri.

Mae llawer o fanteision eraill i gerdded yn Eryri, gan gynnwys gwella ein hiechyd a lles corfforol a meddyliol.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau o lwybrau cyn dechrau ar eich taith trwy ddarllen gwybodaeth am Raddfeydd Llwybrau.

Hidlo canlyniadau
Lleoliad
Gradd
Amser
Amgylchoedd
Math o lwybr
Rhinweddau arbennig
Llwybrau hygyrch
Bwlch Drws Ardudwy
Bwlch Drws Ardudwy
Cymedrol
Cylchdaith 7 km 2 awr
Taith gerdded i odre cadwyn mynyddoedd y Rhinogydd.
Cefnen Waen-oer
Cefnen Waen-oer
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 14 km 6 awr
Taith heriol dros gyfres o gopaon llai adnabyddus yn y Parc Cenedlaethol.
Coed Abergwynant
Coed Abergwynant
Cymedrol
Circular route 6 km 2 awr
Llwybr heddychlon trwy goetir hynafol - perffaith ar gyfer unrhyw dymor.
Coed Graigddu
Coed Graigddu
Hamddenol
Circular route 5 km 1 awr
Taith gerdded drwy'r goedwig ar gyrion Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog
Craig y Ddinas
Craig y Ddinas
Cymedrol
Yno ac yn ôl 7 km 2 awr
Taith gerdded gymedrol i fryngaer o’r oes haearn yng nghanol Ardudwy.
Craig y Fron
Craig y Fron
Hamddenol
Circular route 4.5 km 1.5 awr
Taith hamddenol uwchben bryniau gogleddol Y Bala.
Crimpiau
Crimpiau
Anodd/Llafurus
Circular route 6 km 3 awr
Taith gerdded heriol i un o gopaon is a llai cyfarwydd Eryri.
Cwm Idwal
Cwm Idwal
Cymedrol
Circular route 5 km 2 awr
Un o ardaloedd mwyaf trawiadol yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol.
Cwm Penamnen (Byr)
Cwm Penamnen (Byr)
Hawdd
Circular route 3.5 km 1 awr
Y byrraf o ddau lwybr trwy ddyffryn hanesyddol Cwm Penamnen.
Cwm Penamnen (Hir)
Cwm Penamnen (Hir)
Cymedrol
Circular route 9.5 km 3 awr
Yr hiraf o ddau lwybr trwy ddyffryn hanesyddol Cwm Penamnen.
Cylchdaith Croesor
Cylchdaith Croesor
Cymedrol
Circular route 5.5 km 3 awr
Mae'r daith gylchol hon yn dechrau ym mhentref anghysbell ucheldir Croesor, sydd wedi'i leoli ar lethrau Cnicht.
Cylchdaith Foel Offrwm
Cylchdaith Foel Offrwm
Cymedrol
Cylchdaith 4 km 1 awr
Cylchdaith yw hwn ar stad Nannau sydd ar gyrion Dolgellau.
Map