Mae’r Wyddfa yn fynydd anodd i’w ddringo. Nid ar chwarae bach y dylid mentro i’r copa. Mae elfennau fel y tymhorau, eich lefel ffitrwydd, eich sgiliau mynydd, eich paratoadau cyn cychwyn a phoblogrwydd y mynydd i gyd yn cael effaith ar eich profiad o’r Wyddfa.
Yr Wyddfa yw copa uchaf Eryri ac er fod sawl mynydd yn sefyll dros 3,000 troedfedd yn y Parc Cenedlaethol, nid oes un yn dod yn agos at boblogrwydd y mynydd enwog hwn.
Canllaw ar ddewis llwybr addas i gyrraedd copa’r Wyddfa.
Deall yr ystyr tu ôl i enw copa uchaf Cymru.
Mae chwe phrif lwybr yn arwain at gopa’r Wyddfa. Mae’r rhain yn amrywio o rhwng 11km a 14.5km (taith lawn) a gallant gymryd unrhyw le rhwng 4 a 7 awr i’w cwblhau yn dibynnu ar lefel ffitrwydd, profiad a’r tywydd. Ymchwiliwch y llwybr cyn i chi ddechrau bob amser, gan wneud yn siŵr bod gennych chi lefelau ffitrwydd digonol ar gyfer y ddringfa o’ch blaen.
Mae dringo’r Wyddfa yn sicr yn heriol ac yn gofyn am lefel uchel o ffitrwydd. Ni ddylid cymryd mentro i’r copa yn ysgafn. Dylai unrhyw un sy’n mentro i’r copa fod yn gyfforddus yn cerdded yn bell ac yn dringo ar lethrau serth, anwastad a chreigiog. Gall cynllunio a pharatoi eich taith gerdded yn ofalus, penderfynu ar y llwybr gorau i siwtio eich gallu a gwneud yn siŵr eich bod yn mynd â’r cit a’r offer hanfodol gyda chi oll gyfrannu at eich profiad o’r Wyddfa.
Cofiwch hefyd fod dod yn ôl lawr o’r copa yn gallu bod yn anoddach na cherdded i’r copa ei hun.
Mae’n gallu bod yn syniad da i geisio llwybr haws cyn dringo’r Wyddfa. Mae llawer o lwybrau addas ar gael ar y wefan hon lle y gallwch brofi’ch lefel ffitrwydd.
Mae’n dibynnu ar ba un o’r chwe llwybr rydych chi am ei ddefnyddio i gyrraedd y copa. Mae maes parcio addas ar gychwyn pob llwybr. Fodd bynnag, mae meysydd parcio ar gyfer y llwybrau poblogaidd yn llewni’n gyflym yn ystod adegau prysur y gwanwyn ar haf.
Mae arwyddion mewn mannau lle mae llwybrau i’r copa yn croesi ond ni ddylech ddibynnu ar rhain i gyrraedd y copa. Bydd angen i chi ddod i adnabod y llwybr cyn i chi ddechrau ar eich taith. Mae cyfarwyddiadau ar y wefan hon y gallwch chi eu dilyn ar hyd y llwybr. Dylech hefyd wybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd i gyfeirio ar y mynydd.
Na. Nid yw ‘trainers’ yn addas ar gyfer dringo’r Wyddfa. Dylech wisgo esgidiau cerdded pwrpasol. Mae gan yr esgidiau hyn wadnau trwchus i warchod sodlau eich traed ac i sicrhau gafael da dan draed. Mae ymylon uchel esgidiau cerdded yn cefnogi eich phêr sy’n lleihau’r risg o droi eich phêr ar hyd y daith.
Mae dringo’r Wyddfa yn gallu bod yn berryg ac mae angen i bob unigolyn gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch eu hunain. Hyd yn oed gyda’r offer pwrpasol, mae llawer o beryglon sydd angen bod yn ymwybodol ohonynt. Un o’r prif beryglon yw’r tywydd. Gall tywydd ar y mynydd newid o fewn munudau. Cofiwch wirio’r tywydd cyn cychwyn eich taith a chadw llygaid craff am unrhyw newidiadau yn ystod eich taith. Os yw amodau’r tywydd yn mynd tu hwnt i’ch gallu, dylech droi’n ôl ar unwaith.
Yn ystod y gaeaf, gall rhan helaeth o gopa’r Wyddfa fod wedi ei orchuddio ag eira. Wrth i eira gywasgu, mae’n mynd yn hynod llithrig. Mae hi’n amhosib cyrraedd y copa heb offer mynydda arbenigol yn ystod yr amgylchiadau hyn.
Dros y gaeaf, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyhoeddi Adroddiad Amodau dan Draed dyddiol. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gwybodaeth ar elfennau fel y tywydd ar Yr Wyddfa yn ogystal â rhwystrau megis eira a rhew.
Dylech alw 999 a gofyn am yr heddlu ac yna’r wasanaeth Achub Mynydd. Byddant yn holi am eich:
- Lleoliad
- Enw, rhyw ac oed
- Natur eich argyfwng neu anafiadau
- Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
- Rhif ffôn symudol
Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud mewn argyfwng ar y mynydd ar wefan Adventure Smart.