Ystyriwch archebu lle ymlaen llaw, amseru eich ymweliad ac ymchwilio cyn i chi ymweld ag Eryri.
Mae oddeutu 4 miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod yr adegau prysur, gall hyn roi straen ar ardaloedd poblogaidd yn ogystal â rhoi straen ar rai o gymunedau bychain Eryri.
Cynllunio eich ymweliad ymlaen llaw ydi’r ffordd orau o fwynhau Eryri mewn ffordd gynaliadwy a llwyddiannus.
Mae nifer o ffyrdd i deithio o le i le o fewn y Parc Cenedlaethol gan gynnwys e-feiciau a threnau stêm godidog.
Gwnewch ymchwil i leoedd parcio yn Eryri ymhell o flaen llaw er mwyn sicrhau ymweliad llwyddiannus.
Yr holl wybodaeth am gyrraedd y copa mwyaf poblogaidd yn y Parc Cenedlaethol.
Yr holl wybodaeth ar wersylla a gwersylla gwyllt yn Eryri.
Gwybodaeth am ymweld ag Eryri mewn fan gysgu neu gartref modur.
Sut i gadw eich ci, yn ogystal ag anifeiliaid a bywyd gwyllt Eryri, yn ddiogel wrth fynd a’ch ci am dro.
Mae gan staff y Canolfannau Gwybodaeth wybodaeth drylwyr am bob elfen o’r Parc Cenedlaethol.
Gwybodaeth am nofio gwyllt a gweithgareddau dŵr megis padl-fyrddio a hwylfyrddio.
Mae gan Awdurdod y Parc nifer o doiledau a chyfleusterau ar hyd a lled y Parc.
Canllawiau ar gyfer ymweld â chefn gwlad mewn modd cynaliadwy a diogel.
Gwybodaeth am feicio yn y Parc Cenedlaethol gan gynnwys llwybrau a gwybodaeth diogelwch.
Llyn naturiol mwyaf Cymru ac un o atyniadau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.
Mae gan y Parc Cenedlaethol gyfoeth o lwybrau hygyrch i bawb eu mwynhau.
Darganfyddwch y cyfoeth o safleoedd hanesyddol sydd i’w gweld ym mhob rhan o dirwedd Eryri.
Mae siopa yn y Parc Cenedlaethol yn brofiad unigryw gyda llawer o gynnyrch a gynhyrchir yn lleol.
Mae gan y Parc Cenedlaethol amrywiaeth eithriadol o fannau pysgota i’w mwynhau.
Mae’r holl wybodaeth ynghylch dringo’r Wyddfa ar gael ar dudalen Yr Wyddfa.
Na. Mae rhan helaeth o dir y Parc Cenedlaethol yn dir preifat. Fodd bynnag, mae milltiroedd o lwybrau cyhoeddus i’w darganfod ar hyd a lled yr ardal. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch mynediad yn y Parc Cenedlaethol ar dudalen y Cod Cefn Gwlad.
Na. Mae’n rhaid aros mewn gwersyllfan swyddogol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae tudalen Gwersylla ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cynnig rhagor o wybodaeth am y ffyrdd orau i fwynhau gwersylla yn y Parc.
Mae rhagor o wybodaeth i’w gael ar y dudalen Toiledau a Chyfleusterau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch trên bach Yr Wyddfa ar wefan Rheilffordd yr Wyddfa.
Gallwch danio barbeciws mewn rhai mannau yn y Parc Cenedlaethol. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf ar dudalen Barbeciwis a Thannau.
Mae nifer o lefydd lle y gallwch fynd a’ch ci yn Eryri. Sicrhewch eich bod chi’n edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf ar dudalen Cŵn ym Mharc Cenedlaethol Eryri cyn ymweld.
Mae llawer o lynnoedd ac afonydd Eryri o dan berchnogaeth breifat ac ni chewch chi eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau dŵr na nofio gwyllt heb ganiatâd perchennog y tir. Fodd bynnag, mae gwybodaeth am lefydd addas i nofio gwyllt ar dudalen Nofio Gwyllt a Gweithgareddau Dŵr.